Prifathrawesau
Prifathrawes |
|
Llwyddiannau a Digwyddiadau | Dolenni |
1877-1886 Miss Emily Armstrong |
Dyma'r brifathrawes gyntaf, a hi sefydlodd enw da'r Ysgol, gan ddenu disgyblion yno o Brydain benbaladr. Sicrhaodd fod y maes llafur ar gyfer y merched yn heriol ond hefyd yn gytbwys, gan gymharu'n ffafriol â'r pynciau domestig fyddai fel arfer yn cael eu darparu ar gyfer genethod y cyfnod hwn. |
Yr ysgol yn ystod yr 1880au Disgyblion yn yr 1880au Diwrnod gwobrwyo 1885 |
|
1886-1896 Miss Eliza Fewings |
Daeth yn berson amlwg yn yr ymgyrch i hyrwyddo achos addysg uwch ar gyfer merched Cymru, gan bwyso am fwy o ysgoloriaethau ar gyfer merched, ac am fwy o hyfforddiant ar gyfer athrawon. Daeth yn aelod o lawer o gyrff addysg cyhoeddus yng Nghymru, gan annog rhieni i ganiatáu i'w merched gael addysg dda.
|
Arholiad ysgoloriaeth Diwrnod gwobrwyo 1886 Llwyddiant mewn arholiadau cyhoeddus 1887 Sampler - 1890au |
|
1896-1897 - Miss Lucy Thompson |
Yn 1896, mabwysiadwyd gwyrdd a gwyn fel lliwiau swyddogol yr Ysgol. Arwyddair swyddogol yr ysgol o hyn ymlaen oedd
"Honour before Honours". Cyhoeddwyd cylchgrawn yr ysgolam y tro cyntaf yn 1897 fel dolen rhwng y disgyblion presennol a'r cyn-ddisgyblion. Ynddo, roedd erthygl gan Eluned Morgan Jones (gweler y ddolen). |
Gwrthryfel yn yr ysgol Mattie Roberts a Miss Rutter yn hwylio i Awstralia i weithio yn ysgol Miss Fewings' yno |
|
1897-1906 Miss Diana Thomas |
Prynwyd y cae rhwng yr ysgol a Threm Hyfryd ar gyfer ei ddefnyddio fel maes chwarae hoci. Ychwanegwyd adain newydd i'r ysgol yn 1906, a agorwyd yn swyddogol gan Mrs Lloyd George, a ymwelodd â'r ysgol gyda'i gŵr, David Lloyd George.
Aeth yr ysgol gyfan i weld 'Buffalo Bill's Wild West Show' ar y Marian yn 1904. |
Hoci ar y cae newydd Rhaglen diwrnod gwobrwyo 1902 Myfyrwyr yn chwarae croquet 1903 |
|
1906-1924 Miss Florence Anstey |
Cwblhawyd adain newydd yr ysgol yn 1910, gan gynnwys uned sylweddol ar gyfer cysgu, dwy ystafell ddosbarth, ystafelloedd astudio, ystafell staff ac ystafell gotiau, ac o ganlyniad gallai'r ysgol bellach letya 80 o ddisgyblion.Prynwyd Trem Hyfryd a'i agor fel llety ychwanegol a chanolfan grefft.
Yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf, bu'r merched yn gwnïo eitemau ar gyfer nifer o wahanol elusennau er mwyn cefnogi'r ymdrech a'r ffoaduriaid oedd wedi dod i'r ardal. Cynhaliwyd ffeiriau ar ran y Groes Goch, a chyngherddau i ddiddanu milwyr clwyfedig yn yr Ysbyty Filitaraidd ger Dolgellau. Ymwelodd Tywysog Cymru â'r ysgol yn 1923 gan lofnodi'r llyfr ymwelwyr. |
Cyfarfod Cymdeithas y Cyn-ddisgyblion yn 10 Downing Street Tîm Hoci 1910 Yr Ysgol yn dathlu diwrnod y Cadoediad 1918 A Midsummer Night's Dream, 1923 Tywysog Cymru'n ymweld â'r ysgol yn 1923 |
|
1924-1940 Miss Ellen Constance Nightingale |
Crynwr oedd Miss Nightingale a gredai ym mrawdoliaeth dynion a gwerth ac urddas yr unigolyn. Daeth mwy o ddisgyblion dyddiol i'r ysgol a daeth y Gymraeg yn bwysicach o fewn y maes llafur.
Mabwysiadwyd 'Ardua Semper', fel arwyddair newydd i'r ysgol yn 1934. Mewn pryd ar gyfer y Jiwbilî Aur yn 1928, adeiladwyd campfa, mwy o unedau cysgu ac ystafell staff. Agorwyd pont yr ysgol yn 1938 er mwyn galluogi'r disgyblion i gerdded i Benycoed, y tŷ'r ysgol newydd. Codwyd neuadd newydd yn 1939, wedi'i chynllunio'n bennaf gan Miss Nightingale. Cynlluniwyd y dodrefn gan Edward Barnsley oedd yn aelod o fudiad crefftwyr 'Arts & Crafts'. Cynyddodd y nifer o ddisgyblion i 295. Ellen Constance Nightingale: A Life, gan John Griffiths Pedley, Feb 2022 ISBN: 9780578351322 | Llythyr 1931 Trafod 'Woolly stockings' mewn dyddiadur yn 1930 Dyddiadur disgybl 11 oed yn 1931 Dringo Cader Idris 1934 Disgyblion yn eistedd ar bont yr ysgol, 1939 |
|
1940-1946 Miss E M C Orford |
Yn ystod blynyddoedd y Rhyfel, gwelwyd cynnydd yn nifer y disgyblion oedd yn lletya yn yr ysgol, gan fod y lleoliad yn cael ei gyfrif yn 'ddiogel', a phrynwyd Llys Mynach ar gyfer ei ddefnyddio fel ysgol iau. Sefydlwyd cymdeithasau newydd fel y 'Guides', 'Rangers', a'r 'Training Corps'. Cafodd yr ysgol ei heffeithio gan y rheolau dogni bwyd a'r blacowt (gweler dolenni straeon). Cafwyd ymweliad gan gwmni theatr yr 'Old Vic' yn 1941, gyda'r Fonesig Sybil Thorndike a Lewis Casson yn chwarae'r prif rannau ym 'Macbeth', ac eto yn 1942 yn cyflwyno 'Medea'. Gellir gwrando ar Elinor Owen, un o'r disgyblion yn
trafod y profiad. Aeth aelodau o'r 'Guides' a'r 'Rangers' i'r Deml Heddwch yng Nghaerdydd yn 1945 i fynychu rali, a chael eu cyflwyno i'r Dywysoges Elizabeth. |
Llythyrau adref yn ystod yr Ail Ryfel Byd Diogelwch ar y mynyddoedd Picnic gyda Miss 'Do' Davies yn 1942 'Jottings' am DWS yn ystod amser rhyfel 1939-43 |
|
1946-1969 Miss D B Lickes |
Prynwyd Glyn Malden a Dolrhyd ar gyfer lletya disgyblion, a daeth Glyn Malden yn lleoliad i'r ysgol iau. Cynhaliwyd
Eisteddfod Genedlaethol 1949 yn Nolgellau a defnyddiwyd adeiladau'r ysgol i'r pwrpas yma. Ymddeolodd 'Do' Davies, oedd yn gyn-ddisgybl (1906-12) ac yn athrawes (1919-61). Agorwyd pwll nofio'r ysgol yn 1961 a chafwyd Labordy Ieithoedd flaengar yn fuan ar ôl hynny. Caewyd y rheilffordd rhwng Rhiwabon ac Abermaw yn 1965, a fu'n ergyd fawr i'r ysgol. Daeth Trem Hyfryd i fod yn ysgol i'r disgyblion hynaf yn 1968. Pan sefydlwyd Ysgol y Gader fel ysgol gyfun newydd (a chydaddysgol bellach) ar gyfer yr ardal yn 1962, bu'n rhaid canolbwyntio ar ddenu mwy o ddisgyblion i letya yn yr ysgol. Aeth y nifer o ddisgyblion dyddiol i lawr i 80 am fod bellach gystadleuaeth leol. |
Amser te yng Nglyn Malden 1956 Parti Deuddeg 1949 Llyfrgell a neuadd yr Ysgol yn 1956-7 Gwers nofio 1966 Atgofion am westy'r Golden Lion yn y 50au Atyniadau'r Llwyfan 1967 |
|
1969-1974 Miss N L Lloyd-Jones |
Gwerthwyd Glyn Malden a daeth Llys Mynach yn gartref y disgyblion iau.
Cafodd llawer o'r rheolau caeth eu diddymu, wnaeth fywyd i'r lletywyr dipyn yn haws, a rhoi mwy o gyfrifoldeb a rhyddid i'r disgyblion hŷn. Ymddeolodd nifer o gonglfeini'r ysgol: Miss Lee, (Lotty) Dirprwy Brifathrawes (staff 1941-73). Miss K M Thomas (Ma T.) Pennaeth Cerdd (staff 1944-71) |
Merched yn eu dewis o ddillad Taith gerdded noddedig 1969 Sgïo yn Leysin 1969 Rhai o'r 'Girl guides' gyda Miss Lloyd-Jones 1970 Roedd ysgol yn antur 1972-73 |
|
1974-1975 Miss V E M Shepherd |
Yn gynnar yn 1975, cyhoeddwyd y bwriad i gau'r ysgol. Rhoddwyd rhesymau ariannol am hyn, a achoswyd gan benderfyniad Pwyllgor Houghton y dylid rhoi codiad cyflog i athrawon. Ymdrechodd rhieni i gadw'r ysgol ar agor, ond byddai'r codiad mewn ffioedd mynychu wedi bod yn ormod i ddenu rhagor o ddisgyblion yn y dyfodol. Bu'n rhaid i'r 229 o ddisgyblion chwilio am ysgolion eraill, a bu'n rhaid gwerthu'r adeiladau, a dosrannu eitemau eraill. Sefydlwyd
Cronfa Addysgol Dr Williams gyda'r arian a godwyd er mwyn cynnig grantiau i bwrpas addysgol i gyn-ddisgyblion a phobl leol. Cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch yn Eglwys y Santes Fair, a gellir gwrando ar rannau ohono ar y tudalennau Ffeiliau Sain |
'Yr Adain Salwch' 1973-75 Dyddiau olaf disgyblion yr 'Upper IIIrd' yn 1975 Y Swper Olaf yn DWS 'Cyngerdd yr haf' 1974 |