Amdanom Ni
Agorwyd drysau Ysgol Dr Williams, Dolgellau i ddisgyblion am y tro cyntaf yn 1878 a bu'n flaenllaw ym maes addysg uwchradd i ferched yng Nghymru. Caewyd yr ysgol yn 1975, ychydig cyn iddi ddathlu'i chanmlwyddiant. Cliciwch yma er mwyn darllen rhagor am gyfnod cychwynnol yr ysgol.
Mae hon yn wefan dreftadaeth gymunedol sy'n dathlu a chofnodi hanes ysgol fu unwaith yn rhan annatod o fywyd y dref. Cyfrannwyd straeon a lluniau gan bobl â chanddyn nhw brofiad personol a hanesion am yr ysgol.
Bu'r prosiect hwn yn un sylweddol ar gyfer Cymdeithas y Cyn-ddisgyblion. Ni fyddai wedi digwydd o gwbl heb Janice Thorp (cynllunio a datblygu'r wefan), Rhiannon Gomer (cyfieithu), tîm bach ond ymroddedig o wirfoddolwyr, dau berson hunangyflogedig fu'n gweithio ary prosiect, ac wrth gwrs, y merched a fynychodd yr ysgol sydd wedi gosod eu hanesion a'u lluniau ar y wefan.
Drwy gydol ei hanes, bu Cymdeithas y Cyn-ddisgyblion yn cynrychioli a chefnogi cenedlaethau o ferched a staff yr ysgol. Erbyn hyn, diolch i gefnogaeth ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ,cymorth gan fyfyrwyr ar gwrs MA Gweinyddu Archif ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Archifdy Meirionnydd yn Nolgellau, cafodd yr archif o ddeunyddiau ei chatalogio. Bydd yr archif ddigidol hefyd yn cael ei chatalogio, a bydd modd chwilio drwyddi. Ein gobaith ydy ennyn chwilfrydedd unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes addysg yng Nghymru, gan gynnwys y cyn-ddisgyblion eu hunain.
Llun drwy garedigrwydd 'Judges photography'