Traddodiad Cerddorol
Roedd gan Ysgol Dr Williams draddodiad cerddorol cryf iawn, gafodd ddylanwad parhaol ar amryw o'r disgyblion. Dyma hanes gafodd ei ysgrifennu gan gyn-ddisgybl sy'n enghraifft o'r dylanwad yma.
Cymerodd rai aelodau o gôr yr ysgol ran yn y Côr Ieuenctid a ganodd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru gynhaliwyd yn Nolgellau yn 1949. Galwyd y merched yma o'r pumed a'r chweched dosbarth yn Barti Deuddeg. Cawsant eu hyfforddi gan y ddiweddar Menna Carrington Jones, fu'n dysgu cerdd yn Ysgol Dr Williams rhwng 1948 ac 1951.
Y darn enillodd y wobr oedd 'Y mae afon' .Cliciwch yma i wrando Y mae afon, Daniel Protheroe gyda chaniatâd 'Cwmni Gwyn'.
Mrs K M Thomas, athrawes gerdd arall o DWS, oedd yn cyfeilio ar y piano, ynghyd â Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru dan arweinyddiaeth Clarence Raybold. Un o'r caneuon a ganwyd gan y côr (tua 300 o ran maint) oedd Mun a Bugail .
Ysgrifennodd un o'r 'Parti Deuddeg' hanes ei phrofiadau , ac mae llun o'r grŵp hefyd i'w weld yn yr oriel.
Y staff Cerdd, a'r Gerddorfa Hŷn 1951
Ewch i dudalen Ffeiliau Sain i wrando ar enghreifftiau eraill o gerddoriaeth gafodd ei chwarae yn yr ysgol.
Gallwch hefyd ymweld a'n sianel YouTube am fideos o gerddoriaeth ysgol