Rhannwch eich stori
Mae gennym stori i'w dweud, pawb ohonom oedd yn gyfarwydd ag Ysgol Dr Williams. Mae'r hanes hwnnw'n cael ei adrodd yma, gan agor ffenest ar addysg sydd efallai'n hen-ffasiwn yng ngolwg disgyblion ysgol heddiw. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes lleol neu hanes addysg yng Nghymru ddarllen am ein profiadau o dreulio'n dyddiau ysgol yn Nolgellau. Daethom yma o bob rhan o'r wlad, o wledydd eraill y byd, ac wrth gwrs, o Feirionnydd ei hunan. Mae'n straeon yn dehongli cyfnod sydd o fewn cof.
Ewch i'r tiwtorial ar lein er mwyn dysgu sut mae mynd o'i chwmpas hi, neu ewch i ran Cymdeithas y Cyn-ddisgyblion ar y wefan i gael dyddiad yr hyfforddiant nesaf.
Gwrandewch ar straeon ar ein sianel YouTube
Ewch i dudalen y Straeon i weld y darnau mwyaf diweddar sydd ar y wefan