Gwybodaeth i athrawon
Croeso i Ysgol Dr Williams, Dolgellau, Gogledd Cymru yn 1878 -19
Y Cwricwlwm Cenedlaethol – KS3/4 Dinasyddiaeth, Hanes a Saesneg
Y Rhyfel Byd Cyntaf - Y Ffrynt Cartref : Effaith y Rhyfel ar fywyd mewn ysgol i ferched yng Nghymru
- Ymdrin â gwrthdaro
- Gwybodaeth am y rhan gymerodd plant a merched yn y Rhyfel Mawr
- Gwirfoddoli
- Ffoaduriaid
- Deall fod disgwyl i bob aelod o gymdeithas ymdrechu i gefnogi'r Rhyfel
- Y newid yn swyddogaeth merched
- Y sgiliau sydd eu hangen wrth ddadansoddi a dehongli tystiolaeth hanesyddol
- Astudiaeth leol o wahanol agweddau o hanes sy'n arwyddocaol
- Testunau storïol, Ysgrifennu adroddiadau, Ysgrifennu creadigol.
Archwiliwch yr adnoddau a gyhoeddwyd ar MyLearning - World War One Homefront resource
Diolch i www.mylearning.org am eu holl gefnogaeth.
Ysgol Dr Williams - Addysg Merched yng Nghymru: Ewch i www.dwsoga.org.uk
Mae yno straeon a lluniau am fywyd yr Ysgol o 1878-1975. Heblaw am straeon am Ysgol Dr Williams yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ceir hefyd hanesion, dyddiaduron a lluniau am Ysgol Dr Williams rhwng 1939 a 1945 er mwyn gweld beth ddigwyddodd yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar y wefan hefyd ceir tudalen am gyfraniad cyn-ddisgyblion i hanes - Merched mewn Hanes.
Byddem yn falch iawn o gael unrhyw sylwadau am sut y gallai'r safle fod o ddefnydd i fyfyrwyr mewn meysydd eraill. Mae gennym ddiddordeb mewn cyhoeddi (a chydnabod) syniadau am wersi fyddai'n ymestyn y ddarpariaeth.
Chwilio: Awgrymwn eich bod yn defnyddio geiriau allweddol wrth Chwilio.
Thêmau straeon a lluniau: Byddwch yn ei chael hi'n haws i archwilio drwy'r themâu, yn hytrach na mynd yn syth i'r Oriel luniau. Rhestrwn enghreifftiau o straeon a lluniau yn ôl thema. Dyma'r themâu:
Cliciwch ar y dolenni i weld enghreifftiau sy'n cyd-fynd â'r gwahanol themâuRhannu syniadau am wersi
Os byddwch yn defnyddio'r wefan ar gyfer cefnogi dysgu mewn ysgolion, a'ch bod yn hapus i rannu rhai o'ch syniadau, rhowch wybod inni os gwelwch yn dda drwy ebostio'r safle dan Cysylltwch â ni . Diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri, Prifysgol Aberystwyth, Archifdy Dolgellau, ein tîm bach o wirfoddolwyr, a'r holl gyn-ddisgyblion a rannodd eu lluniau a'u straeon.
Jennie Forrester
(Cydlynydd y Prosiect)