Ffeiliau Sain
Casgliad o recordiadau cyfoes a hanesyddol, yn cynnwys cerddoriaeth gorawl a thapiau llafar:
- Cerddoriaeth Nadoligaidd
- Cerddoriaeth yr haf
- Tapiau llafar
- Gwasanaeth Diolchgarwch - Gorffennaf 1975
- Emyn a Salm yr Ysgol
Rydyn ni'n ddiolchgar i Brifysgol Huddersfield (Yr Adran Technoleg Cerdd) am ein galluogi i rannu ein cynnyrch cerddorol, ac am ddigideiddio a gwella'r sain. Gwelir seren gerllaw'r teitl yn y recordiadau arbennig hynny. Diolchwn i Mr John Peel a wnaeth y recordiadau gwreiddiol o gyngherddau Nadolig a'r haf, a hefyd rannau o'r Gwasanaeth Diolchgarwch ar achlysur cau'r ysgol yn 1975. Diolchwn hefyd i BBC Radio Cymru am ganiatáu inni atgynhyrchu rhai darnau o dapiau rhaglenni. Ceir logo'r BBC ar y recordiadau hynny, sydd yn Gymraeg. Diolch hefyd i Gillian Green MBE, o Live Music Wales, am hwyluso'r recordiad gan gôr o ferched o Ysgol Gorawl Eglwys Gadeiriol Llandaf yn canu emyn a salm yr ysgol.
Gallwch hefyd ymweld â sianel YouTube DWS i weld fideos o gerddoriaeth ysgol.
Yn olaf, diolch i bawb sydd wedi cyfrannu - yn y ganrif ddiwethaf, ac yn ystod yr unfed ganrif ar hugain.
Adrodd am broblem - cais am ddileu deunydd a lwythwyd
Cerddoriaeth Nadoligaidd
'Hodie Christus Natus Est' gan Benjamin Britten o 'A Ceremony of Carols' yn cael ei chanu'n ddigyfeiliant gan grŵp bach o ferched wrth iddynt adael neuadd yr ysgol, yng ngolau cannwyll, ar derfyn y Cyngerdd Nadolig. Fe glywir eu lleisiau'n pylu wrth iddynt gerdded i lawr drwy'r coridorau gwag tuag at y neuadd fwyta. Roedd hi'n draddodiad canu'r 'Hodie' adeg y Nadolig ar ddechrau ac ar ddiwedd y cyngerdd. Dyma dudalen olaf y rhaglen o'r cyngerdd gwreiddiol. Fe glywch hefyd sŵn crafu cadeiriau'r gynulleidfa.
Y côr, neu efallai'r Gymdeithas Fadrigal, yn canu 'This Little Babe', i gyfeiliant piano, o waith Benjamin Britten - 'A Ceremony of Carols', yn ystod y cyngerdd Nadolig blynyddol.
Byddai'r Adran Gerdd yn Ysgol Dr Williams yn aml yn cynhyrchu darnau o gerddoriaeth newydd, heriol a chynhyrfus. Yn ystod yr 1960au, cafodd y disgyblion eu cyflwyno i weithiau Benjamin Britten a Kodaly.
Dewis y Golygydd: Gwrandewch ar grafiadau cadeiriau a gyddfau'n cael eu clirio wrth i bawb sefyll yn neuadd yr ysgol, gyda'r organ yn chwarae'r cyflwyniad i'r garol Gymraeg hon, sydd i mi, yn llawn atgofion o ddathliadau'r Nadolig yn DWS.
Daeth 'Torches', a gyfansoddwyd gan John Joubert a'i chyhoeddi yn 1951, yn fuan yn un arall a ymddangosai'n rheolaidd ar raglen flynyddol Cyngerdd y Nadolig yn DWS. Yma, fe'i cenir gan y côr i gyfeiliant piano. Ni wyddom pwy ydy'r unawdydd sy'n canu'r ail bennill.
Yma mae Côr yr Ysgol yn canu 'Deo Gratias' o'A Ceremony of Carols' gan Benjamin Britten i gyfeiliant piano. Mrs K.M. Thomas, pennaeth cerdd yn yr ysgol ar y pryd oedd yn arwain, gan weithio ochr yn ochr â Miss Wendy Edwards bryd hynny. Fe welwch fod 'Deo Gratias' wedi'i rhestru ar Raglen Cyngerdd y Nadolig 1965
I gyfeiliant organ, mae Côr yr Ysgol yn canu darn o 'Christmas Oratorio' J.S. Bach. Fe glywir cryn dipyn o besychu a chrafu cadeiriau ar ddechrau'r trac.
Adroddgan o 'Christmas Oratorio' J.S. Bach; credwn mai Eirian Davies oedd yr unawdydd yma. Aeth Eirian yn ei blaen i wneud gyrfa iddi'i hun fel canwr opera. Yma, mae hi'n canu i gyfeiliant organ. Mae cantorion eraill (anhysbys) i'w clywed tua diwedd y darn.
Allan o 'Christmas Oratorio' J.S.Bach. Credwn mai Eirian Davies ydy'r unawdydd, sy'n canu i gyfeiliant organ.
Darn corawl o 'A Christmas Oratorio' J.S. Bach. Gallwch glywed pawb yn sefyll, crafu cadeiriau, a rhai'n pesychu wrth i'r organ ddechrau chwarae. Yna, mae'r côr yn cychwyn canu.
'Holy Night' gan Gruber. Credwn mai yn 1965 y gwnaed y recordiad hwn. Y côr sy'n canu'r ail bennill. Cliciwch yma er mwyn cael gweld rhaglen wreiddiol y cyngerdd. Cenir 'Holy Night' i gyfeiliant organ. Byddai Neuadd yr Ysgol wedi'i haddurno bob Nadolig gyda deiliach bythwyrdd, celyn ac eiddew, wedi'i gasglu gan y disgyblion, a'i osod i ymgordeddu dros falconi'r llyfrgell.
Lleisiau digyfeiliant yn canu carol Blygain Gymraeg - Carol y Blwch gan gyfansoddwr anhysbys. Ni wyddom pwy yw'r cantorion yma.
'Joseph hoff, rwyf wedi blino….' ydy llinell gyntaf y garol hon a gyfansoddwyd gan Elfed (1860-1953). Ar hyn o bryd, nid wyddom pwy yw'r gantores. Mae hi'n cychwyn drwy ganu'n dawel, ond yn cynyddu mewn hyder wrth i'r darn fynd yn ei flaen.
Wedi'i recordio, o bosib, gan y Côr Iau tua 1969, i gyfeiliant y piano a thambwrîn. Geiriau disynnwyr sydd yma ac acw drwy'r darn - ' Ding Ding'. Mae'r cyfansoddwr yn anhysbys pan ysgrifennir y geiriau hyn.
Roedd y garol adnabyddus a hoff hon bob amser yn rhan o ddathliadau'r Nadolig yn yr ysgol. Byddai'r ysgol gyfan yn ei chanu yn y gwasanaethau boreol a hefyd yn y cyngherddau Nadolig.
Carol Saesneg draddodiadol wedi'i threfnu gan Ralph Vaughan Williams a'i chanu gan y Côr, neu efallai gan y Gymdeithas Fadrigal oddeutu 1967
I derfynu pob cyngerdd Nadolig blynyddol, byddai pawb yn y gynulleidfa yn canu'r garol 'O Come All Ye Faithful' i gyfeiliant organ gyda desgant sy'n anelu at yr entrychion. Dyma ddolen i dudalen olaf rhaglen y Cyngerdd Nadolig 1965.
Yn union ar ôl i'r gynulleidfa ganu'r garol Saesneg draddodiadol hon, byddai dwsin o ferched yn gorymdeithio'n araf o'r neudd yn canu'r Ôl-ymdaith o 'A Ceremony of Carols' Benjamin Britten, a elwid yr 'Hodie'. Mae'r darn yma hefyd ar gael ymysg y ffeiliau sain Nadoligaidd. Yna, caem fynd adref i dreulio'r Nadolig!
Cerddoriaeth yr haf
Dewisiwyd rhai disgyblion o Ysgol Dr Williams i gymryd rhan yng Nghôr Ieuenctid Meirionnydd. Un o'r caneuon a ganwyd gan y Côr iau oedd Mûn a Bugail. Dyma lun o'r côr yn yr Eisteddfod.
Bu rhai o aelodau côr yr ysgol yn rhan o Gôr Ieuenctid a gystadlodd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nolgellau yn 1949. Enillodd deuddeg o ddisgyblion o'r pumed a'r chweched dosbarth, a elwid yn 'Parti Deuddeg' drwy ganu 'Y mae afon' gan Daniel Protheroe. Atgynhyrchir y recordiad drwy ganiatâd Cwmni Gwyn..
Cliciwch ar y ddolen i weld deuddeg o aelodau'r côr ac yma i ddarllen hanes y diwrnod, wedi'i ysgrifennu gan Bidi Davies, un o'r Parti Deuddeg.
Y Côr Hŷn yn canu'r eitem olaf ar raglen cyngerdd yr haf -'A Summer Serenade' 1974 - i gyfeiliant piano a chwaraeir gan Christine Ellis.
I gyfeliant piano, mae'r Côr Madrigal Hŷn yn canu 'Breadbaking' yng nghyngerdd yr haf - 'Summer Serenade'.
Dyma'r Côr Hŷn yn canu 'As Torrents in Summer' i gyfeiliant piano ar gyfer cyngerdd yr haf 1974 - 'Summer Serenade'.Christine Ellis sydd wrth y piano.
Y Côr Madrigal Hŷn, yn canu i gyfeiliant piano, ar gyfer cyngerdd yr haf 1974 - y 'Summer Serenade'
Y côr hŷn, yn canu darn gan Bizet i gyfeiliant piano, a genir gan Christine Ellis, ar gyfer cyngerdd yr haf 1974 - y 'Summer Serenade'.
Y Côr Madrigal Iau sydd yma'n canu'r gân Neopolitanaidd hon ar gyfer cyngerdd yr haf, 1974, i gyfeiliant piano.
Wedi'i gosod yn arddull Handel gan V. Hely-Hutchinson a'i chanu gan y Côr Hŷn i gyfeiliant piano ar gyfer cyngherdd yr haf 1974 - y 'Summer Serenade'. Christine Ellis sydd wrth y piano.
Trefniant gan V. Williams o gân werin Seisnig, a genir yma gan Hannah Lovegrove i gyfeiliant gitâr. Rhan o'r rhaglen far gyfer cyngerdd yr haf 1974 - sef y 'Summer Serenade'.
'The Troubadours', o'r bedwaredd flwyddyn, yn canu 'I would that my Love' gan Mendelssohn i gyfeiliant piano ar gyfer cyngerdd yr haf 1974, a elwid 'A Summer Serenade'. Ar hyn o bryd, mae enwau'r cantorion a'r cyfeilydd yn anhysbys inni.
Tapiau Llafar
Darn o raglen a recordiwyd yn 2008 pan gyfwelwyd cyn-ddisgyblion ynglŷn â'u profiadau yn yr ysgol. Mae'r darn hwn yn cynnwys disgyblion yn sôn am eu profiadau bob dydd, a'u hargraffiadau o'r ysgol.
Darn o raglen recordiwyd yn 2008 pan gyfwelwyd cyn-ddisgyblion ynglŷn â'u profiadau yn yr ysgol. Mae'r darn hwn yn cynnwys rhai disgyblion yn sôn y dysgu, a'r addysg a gawsant yn yr ysgol.
Darn o raglen a recordiwyd yn 2008 pan gyfwelwyd cyn-ddisgyblion am eu profiadau yn yr ysgol. Mae'r darn arbennig hwn yn cynnwys y disgyblion yn trafod traddodiad cerddorol yr ysgol.
Mae'r recordiad yn Gymraeg.
Rhan o raglen a recordiwyd yn 2008 pan gyfwelwyd cyn-ddisgyblion am eu profiadau yn yr ysgol. Mae'r darn hwn yn cynnwys disgyblion yn trafod yr ymddygiad a ddisgwylwyd ganddynt dros brydau bwys, profiadau rhai o aelodau'r staff wrth ymdrin â disgyblion, ac agweddau tuag at siarad Cymraeg yn ystafell y staff.
Mae'r recordiad hwn yn Gymraeg.
Rhan o'r rhaglen a recordiwyd yn 2008 oedd yn cynnwys cyfweliadau gyda chyn-ddisgyblion am eu profiadau yn yr ysgol. Mae'r darn yma'n cynnwys disgyblion yn trafod chwaraeon yn yr ysgol a dringo Cader Idris. Mae hefyd yn cynnwys aelod o'r staff yn trafod cau'r ysgol yn 1975, a'i pherthynas gydag aelodau hŷn y staff yn yr ysgol.
Cafodd Elinor ei geni yn 1926, ac roedd yn ferch i athro lleol, ac yma mae hi'n disgrifio cael ei hanfon i Ysgol Dr Williams fel disgybl ddyddiol pan oedd hi'n 9 oed yn 1936. Bryd hynny, roedd y merched dyddiol yn cael eu cadw ar wahân i'r disgyblion oedd yn lletya yno. Mae hi'n trafod ei hatgofion am athrawes Saesneg ysbrydoledig,Dorothy 'Do' Davies, Miss Nightingale y Brifathrawes oedd yn Grynwr, ymweliad gan Dame Sybil Thorndike a Lewis Casson (gyda chwmni theatr yr 'Old Vic' ) yn ystod y rhyfel, dillad isaf a 'liberty bodices', y wisg ysgol, syspendars, hetiau panama, cemeg a choginio, canu anthemau cenedlaethol y cyngrheiriaid ar Ddiwrnod Heddwch, y neuadd 'newydd', y llyfrgell a'r twll i'r gerddorfa, a chael ei galw'n "Dr Williams' 'Pink Pills'". Mae Elinor yn diffinio beth oedd 'grannie's luggage' a 'smiles'.
Gwnaed y recordiad hwn ar sail erthygl yng nghylchgrawn yr ysgol sy'n dweud hanes perfformiad yn neuadd yr Ysgol o'r ddrama 'Macbeth' yn 1941. Sybil Thorndike oedd yn portreadu Lady Macbeth, a'i gŵr, Lewis Casson, oedd yn chwarae 'Macbeth'.
Aeth y ddrama ar daith gyda chwmni theatr yr 'Old Vic', oedd wedi symud o Lundain i Burnley yn ystod y rhyfel. Caed perfformiadau gan Sybil Thorndike a Lewis Casson ar draws Gogledd Lloegr a thrwy Gymru, gan ymweld â neuaddau pentref neu neuaddau ysgolion, profiad go wahanol i berfformio yn theatrau Llundain. Ar 2 Ebrill 1941, daethant i berfformio ynYsgol Dr Williams, gan greu cynnwrf mawr trwy'r Ysgol. Ar dudalennau llyfr llofnodion ceir llofnod nifer o actorion amlwg eu dydd ac mae'r stori hon -'DWS Changes from 1939-45hefyd yn dwyn atgofion am yr achlysur.
Atgofion Vera Gibbon am ei bywyd yn Ysgol Dr Williams; mae hi'n sôn am ei hathrawes Saesneg, 'Do' Davies, gwersi cerddoriaeth, a chwaraeon. Mae yma hefyd gyfraniadau gan Nesta Wynn Jones, oedd yn ddisgybl yn ystod y 50au a'r 60au, sydd hefyd yn trafod ei hatgofion am 'Do', ymdrechion codi arian ar gyfer pwll nofio'r ysgol, gwersi ynganu, a pheidio bod yn gallu siarad Saesneg nes ei bod yn wyth oed. Mae Vera hefyd yn sôn am gymryd rhan mewn cyngherddau ysgol a dylanwad 'tawel' Miss Nightingale, y brifathrawes oedd yn Grynwr, oedd ddim yn credu mewn cosbi disgyblion, ond yn hytrach bwysigrwydd syrthio ar eich bai ac ymddiheuro.
Mae Vera Gibbon hefyd wedi cofnodi ei hatgofionar y safle.
Sgwrs rhwng Nesta Wynn Jones (cyn-ddisgybl) a Margaret Hewitt, fu'n dysgu Saesneg yn Ysgol Dr Williams rhwng 1965 a1967 (ei phenodiad cyntaf fel athrawes). Mae Miss Hewitt yn trafod ei phrofiad o fod mewn amgylchedd braidd yn strwythuredig, a'i chyfrifoldebau fel athro. Mae hi hefyd yn trafod ei hargraffiadau o fywyd y merched oedd yn lletya yn yr ysgol, a'r brifathrawes Miss Lickes, (fu'n bennaeth rhwng 1947a 1969) a'i dylanwad ar yr ysgol.
Rhaglen Radio Cymru - ‘Cofio’, a gyflwynwyd gan John Hardy, 11 Ebrill 2015.
Yn ystod y cyfweliad gan Dr Lyn Davies yn 1984, mae Dilys Elwyn Edwards yn trafod y dylanwad a gafodd Ysgol Dr Williams ar ddatblygiad ei gyrfa gerddorol.
Gellwch ddarllen rhagor am Dilys Elwyn Edwards ar ein tudalen Merched mewn Hanes.
Gwasanaeth cau
Mae'r recordiad yma'n rhan o anerchiad gan Archesgob Cymru, yr Hybarch G.O.Williams D.D. yn ystod gwasanaeth cau Ysgol Dr Willilams yn Eglwys y Santes Fair, Dolgellau. Yn ei anerchiad, mae'r Archesgob yn canmol y canu ac ymddygiad y merched a fu ato i'w derbyn yn ystod y 18 mlynedd y bu'n gyfarwydd â'r Ysgol. Nododd mai ychydig iawn o'r disgyblion (yn ôl ei brofiad ef) oedd yn ariannog, grymus nag uchel eu safle, ac mae'n gresynu at y chwyddiant ariannol dybryd a'i ganlyniadau trist sydd wedi gadael eu marc ar sefydliadau elusennol. Meddai: 'Great harm will be done (gan gyfeirio at fwriadau llywodraeth y dydd) 'unless other ways are found of providing boarding education for those, who for any reason, stand in need'. Dywedodd y byddai dylanwad cyn-ddisgyblion yr ysgol yn mynd ymlaen i gael effaith gadarnhaol am genedlaethau i ddod. Gweler toriad papur newydd am y gwasanaeth ar yr Oriel sydd ar y wefan.
Atgynhyrchir y recordiad hwn yma gyda chaniatâd caredig yr Eglwys yng Nghymru.
Noder: Clywir hymian yn y cefndir drwy gydol y recordiad na fu'n bosib ei ddileu oddi ar y recordiad tâp gwreiddiol.
I gyfeiliant Mrs K. M Thomas ar yr organ, mae'r gynulleidfa'n canu 'Am brydferthwch daear lawr'. Cenir desgant ar yr ail bennill, a'r olaf.
I gyfeiliant Mrs K M Thomas ar yr organ, mae'r Côr yn canu'r anthem 'We Love the Place Where Thine Honour Dwells', sef aralleiriad o Salm 84 allan o 'Requiem' Brahms.
Hon oedd yr ymdeithgan yn y gwasanaeth Diolchgarwch. Fe'i cenid gan y Côr ac unawdydd anhysbys.
Mae rhywfaint o sŵn hymian yng nghefndir y recordiad hwn.
Y gynulleidfa yn canu Salm 121, a elwid yn 'Salm yr Ysgol' gan y disgyblion. Mrs K M Thomas sy'n chwarae'r organ.
Gan mai ar recordydd tâp y gwnaed y gwreiddiol, dydy'r sain ddim bob amser yn glir, ac fe glywir hymian yn y cefndir.
Canu Emyr yr Ysgol am y tro olaf.
Emyn a Salm yr Ysgol
Recordiwyd Emyn Ysgol Dr Williams gan gôr o ferched o Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf, dan arweiniad Simon Lovell-Jones. Cyflwynir y recordiad hwn i un o gyn-ddisgyblion Ysgol Dr Williams, ac aelod o staff yr Adran Gerdd yn ddiweddarach, sef y gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards (1918 – 2012). Rydym yn ddiolchgar iawn i gyn-ddisgybl arall, Gillian Green MBE o ‘Live Music Now Wales', am hwyluso'r recordiad.
Merched sy'n aelodau o gôr Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf yn canu Salm 121 dan arweiniad Simon Lovell- Jones. Fe'i gelwid yn 'Salm yr Ysgol'.
Cyflwynir y recordiad hwn er cof am gyn-ddisgybl a chyn aelod o staff yr Adran Gerdd, y gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards (1918 – 2012). Rydym yn ddiolchgar i Gillian Green MBE o ‘Live Music Now Wales’, cyn-ddisgybl arall, am hwyluso'r recordiad.