Gwybodaeth am ardal Dolgellau
Twristiaeth
Hanes yr ardal
Map o1886 sy'n dangos y rheilffordd cyn iddi gael ei chau yn ystod chwedegau'r ganrif ddiwethaf. Daw'r map o 'The Court Guide & Royal Blue Book of Wales' gan Charles William Deacon gyda gwelliannau o fap gan yr Arolwg Ordnans.
- Casgliad y Werin Cymru - gwefan ryngweithiol sy'n cynnwys
mapiau hanesyddol o'r ardal;
cliciwch yma i weld map o Ddolgellau a lluniau hanesyddol o Ysgol Dr Williams. Mae'r map yn caniatáu ichi chwyddo'r lluniau wrth edrych arnynt. - Archifdy Meirionnydd - mae yma gasgliad cynhwysfawr o ddogfennau am hanes Dolgellau. Yma hefyd mae'r dogfennau a archifwyd am Ysgol Dr Williams er 1878 pan gafodd ei hagor. Yn ddiweddar, cafodd y casgliad ei gatalogio gan fyfyrwyr y cwrs ymchwil ar Weinyddu Archif ym Mhrifysgol Aberystwyth.