Atgofion Anne Roberts OBE 1943 - 1950
Bum yn ddisgybl yn DWS o 1943 hyd 1950. Yr oedd yr Ail Ryfel Byd yn ei anterth a rhaid oedd defnyddio ‘coupons’ at fwyd, dillad a phetrol. Teithiais o Gorwen i Ddolgllau ar y trên, a chyrraedd DWS amser cinio yng nghwmni y ferch oedd i edrych ar fy ôl. Deallais mai yn ‘Dormy 10’ yr oedd fy ngwely – ystafell fawr hefo 25 o welâu. Yr oedd fy ngwely i y tu allan i ystafell un o’r athrawon cerdd - Violet Pasher Ingram, dynes fawr drom – ‘no shrinking violet’.
Cychwyn yn Nosbarth 2P – dim ond dwy ohonom oedd yn breswylwyr newydd, ond r’oedd y genod oedd yn dod yn ddyddiol yn newydd, ac wrth gwrs DWS oedd eu Hysgol Uwchradd. Cymraeg oedd eu hiaith, a dim ond rhyw dair ohonom oedd yn aros dros nôs siaradai Gymraeg. Yr oedd amryw o’r genethod wedi dod i DWS o ardaloedd Lerpwl a Llundain i osgoi’r bombio.
6.45pm oedd ein hamser gwely, hynny ar ôl swper pur anniddorol, a chan ei bod yn rhy gynnar i feddwl am gysgu byddem yn chwarae o gwmpas a chadw twrw, ac yn aml yn cael ein dal, â’r gosb oedd llond llwyed o ‘Syrup of Figs’. Rhoed ‘stop’ ar hynny gan fod fy nhad, oedd yn feddyg, wedi ‘dweud y drefn’ !
Ar ôl cefndir addysgol da yn yr Ysgol Elfennol, cefais waith y dosbarth yn DWS yn hawdd ddigon. ‘Roedd rhaid cael awr o gemau bob dydd – hoci, netball, tennis, neu griced. Chwaraeem ‘rounders’ ar y Marian gan geisio cael y bêl i’r afon Wnion amled ac y gallem, er mwyn cwtogi’r chwarae os oedd modd. Os oedd y tywydd yn wael fe aem allan am dro, cerdded bob yn ddwy mewn ‘crocodile’, hefo’r genethod hŷn yn ein tywys, ond d’oeddym ni ddim yn gwerthfawrogi harddwch y wlad o’n cwmpas.
‘Roedd y penwythnosau’n wahanol, yn y blynyddoedd cynnar dyma’r dyddiau i newid ffrindiau neu ffraeo !. Ar y Sul, Capel Salem yn y bore, hefo’r rhai lleiaf ohonom yn gorfod deud adnod !. Ysgol Sul yn y p’nawn ac ambell waith aem i Ysgol Sul Capel y Bedyddwyr, gan mai John Hughes, ewythr Owain Arwel Hughes, oedd oedd yr athro. Ef oedd Cyfarwyddwr Cerdd Sir Feirionnydd a phawb yn meddwl y byd ohonno. Tasg Dydd Sul oedd sgwennu adref , ac edrychem ymlaen at dderbyn yr atebion ac at y bocsus o ffrwythau yr oedd Mam yn eu hanfon ac oedd yn cael eu dosbarthu amser tê.
Daeth Miss Lickes yn brifathrawes ym 1945/46. Merch wahanol iawn i Miss Orford, ac yn hoff o gathod, hoci a chriced. Cafodd ddylanwad mawr ar yr athrawon a’r staff eraill, ar y disgyblion ac hefyd drigolion yr ardal, ac ewn gwirionnedd ar Bwyllgor Addysg y Sir hefyd.
Cefais symud i Benycoed i gysgu pan oeddwn yn y Pumed Dosbarth – blwyddyn arholiadau cyffelyb i’r GCSE. Yna dwy flynnedd yn y Chweched Dosbarth yn gwneud Gwyddoniaeth a Mathemateg, ac fe ddeuai chwe hogyn i lawr atom o ysgol Ramadeg y Bechgyn i gael gwersi Bywydeg. Deuent i fewn drwy’r drws ffrynt, cerdded i lawr i’r labordy â’r genod yn hongian allan o ddrysau eu dosbarth i gael cip arnynt !. Cofiaf yn dda y stŵr fu pan ddechreuodd un o’r hogiau deimlo’n sâl wrth wylied yr athrawes yn trin perfedd llyfant !. Bu’n rhaid mynd a fo i’w warchod yn y ‘sick wing’- cryn gyffro wrth gwrs.
Yn ein blwyddyn gyntaf yn y 6ed dosbarth cawsom ddod â’n beics yn ôl o gartref, a chan fod y rhan fwyaf ohonom yn ‘monitors’, oni bai fod gennym gêm fe aem allan i’r Ganllwyd neu Bontddu – prynu poteli pop, ‘Tarten Lyons’ am swllt, (5 ceiniog ym mhres heddiw !) ac yna ffônio gartref – Dyma’n blâs cyntaf o ‘Ryddid’. Beth arall sydd yn sefyll allan ar ôl saith mlynnedd yn DWS ? - y cyfeillgarwch, y cyfle i werthfawrogi a mwynhau cerddoriaeth, cael gwrando cyngherddau a darlithoedd o safon yn y Neuadd hyfryd (neuadd gynlluniwyd gan Miss Nightingale), dosbarthiadau Saesneg Do Davies, Eisteddfod Gŵyl Dewi, gwersi cerdd hefo Dilys Roberts (Dilys Elwyn Edwards wedyn), ac ennill cystadleuaeth y Parti Deuddeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau ym 1949. Mae’r ffaith fod gennym Gymdeithas Cyn Ddisgyblion mor gryf, er fod yr ysgol wedi cau ers 1975 , sydd bellach 40 mlynnedd yn ôl, yn destament arddechog i’n haddysg ym mhob ystyr.
Anne Roberts(Lloyd Davies) Rhagfyr 2015
- Uploaded by:Jennifer Hutcheson
- Approximate date of item:
From: -- - 1943
To: -- - 1950 - Location:Dolgellau
- County:Merioneth
- Creator:Anne Roberts
- Themes:Profiadau disgyblion
Please login to comment.