Rhannwch eich stori

images/photo_courtesy_Gillian_Humphreys.jpg

Mae gennym stori i'w dweud, pawb ohonom oedd yn gyfarwydd ag Ysgol Dr Williams.  Mae'r hanes hwnnw'n cael ei adrodd yma, gan agor ffenest ar addysg sydd efallai'n hen-ffasiwn yng ngolwg disgyblion ysgol heddiw.  Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes lleol neu hanes addysg yng Nghymru ddarllen am ein profiadau o dreulio'n dyddiau ysgol yn Nolgellau.  Daethom yma o bob rhan o'r wlad, o wledydd eraill y byd, ac wrth gwrs, o Feirionnydd ei hunan. Mae'n straeon yn dehongli cyfnod sydd o fewn cof. 

Ewch i'r tiwtorial ar lein er mwyn dysgu sut mae mynd o'i chwmpas hi, neu ewch i ran Cymdeithas y Cyn-ddisgyblion ar y wefan i gael dyddiad yr hyfforddiant nesaf.

Gwrandewch ar straeon ar ein sianel YouTube  


images/archives-01.pngEwch i dudalen y Straeon i weld y darnau mwyaf diweddar sydd ar y wefan