Er 1975 - Coleg Meirion-Dwyfor

images/coleg-meirion-dwyfor-dolgellau-image-1-708449241-2632362.jpg

Pan gaewyd DWS yn 1975, 'roedd yn ddiwrnod trist i bawb ohonom. Roedd pawb yn dyfalu beth ddeuai o’r ysgol ac yn gobeithio na chai’r adeiladau fynd yn adfeilion. Yn ffodus, penderfynodd Cyngor Sir Gwynedd brynu’r adeilad ar gyfer yr Awdurdod Addysg Bellach a symudwyd Coleg Meirionnydd, y Coleg Addysg Bellach, yno o’i safle gwreiddiol ger y Llwyn ar Ffordd Bala.

Bu’r coleg – Coleg Meirion-Dwyfor erbyn hyn – yn gaffaeliad mawr i’r gymuned leol. Yn ystod 1993, adleolwyd chweched dosbarth yr ysgolion uwchradd a chynigiwyd cyrsiau lefel A yn y coleg. Roedd yno hefyd gyrsiau galwedigaethol ar iechyd, astudiaethau gofal plant, trin gwallt, arlwyo, astudiaethau busnes, adeiladu, peirianneg ac amaethyddiaeth.

Caiff y myfyrwyr, sy’n teithio o bob cwr o Feirionnydd a rhannau o Ddwyfor, ddewis o amryw gyrsiau academaidd a galwedigaethol, rhai yn arwain at addysg uwch ac eraill i brentisiaeth a rhaglenni hyfforddi mewn diwydiant a busnes. Mae sawl busnes lleol wedi elwa’n fawr o’r sgiliau ddysgwyd i’r myfyrwyr, yn enwedig ym maes twristiaeth ac adeiladu.

Bydd y darllenwyr yn dyfalu sut mae’r hen DWS wedi newid. Mae prif fynedfa’r Coleg ger yr hen ‘Gym’ gyda grisiau newydd yn arwain at y llawr uwch. Mae’r cyrtiau tennis a chae hoci wedi hen ddiflannu. Lleolwyd adran beirianneg y coleg o flaen yr hen dŷ athrawon (Trem Hyfryd). Mae adeilad cyswllt, ar hyd a thu hwnt i safle’r hen Londri’n cartrefu sawl adran: Astudiaethau Iechyd a Gofal Plant, Trin Gwallt a Therapi Harddwch, Anghenion Arbennig, ystafelloedd dosbarth amrywiol a’r brif swyddfa weinyddol. Yn y prif adeilad, mae llawer o’r dosbarthiadau yr un peth heblaw, wrth gwrs, am y cyfrifiaduron di-ri’ ym mhobman. Llyfrgell y coleg sydd yn y ‘Gym’ bellach ac y mae bwyty hyfforddi newydd wedi cael ei adeiladu ger yr hen labordy Cemeg. 

Hyffordda’r adran arlwyo fyfyrwyr ar gyfer gwestyau a bwytai lleol a rhai pellach i ffwrdd.

Mae pont yr Ysgol yn dal mewn bodolaeth, diolch i ymdrechion nifer o bobl leol fu'n brwydro yn erbyn ei dymchwel rai blynyddoedd yn ôl.  Ystyrir y bont yn fynedfa i Ddolgellau o hyd, ond nid yw'n cael ei defnyddio bellach am resymau Iechyd a Diogelwch.  Dydy'r llwybrau ddim yn arwain i Benycoed erbyn hyn, gan nad ydy'r lleiniau tenis a hoci yno bellach.