Pont Ysgol Dr Williams a bathodynnau'r Ysgol

Pont yr Ysgol

Cafodd pont yr ysgol ei hagor ar 30 Ebrill 1938 gan y Fonesig Margaret Lloyd George fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Diemwnt yr Ysgol.  Roedd y bont yn cysylltu prif adeilad yr ysgol gyda'r llety ar gyfer y disgyblion oedd yn lletya ym Mhenycoed.

DWS school bridge opening 1938images/schoolbridge_plaque.jpg

‘Cyfeillion Pont Dr Williams’

Pan fygythiwyd dymchwel y bont, ffurfiwyd grŵp i ymladd am ei dyfodol. Cynhaliwyd trafodaethau gyda Choleg Meirion-Dwyfor a'r awdurdod lleol, ac fe gafodd y grŵp hwb a chefnogaeth pan gyflwynwyd deiseb wedi'i llofnodi gan drigolion Dolgellau yn galw am ddiogelu'r bont.  YmrwyDWS School bridge, Dolgellaumodd Cyfeillion y Bont i godi £5,000 os caed addewid i ddefnyddio'r £20,000 oedd wedi'i glustnodi ar gyfer ei dymchwel ar gyfer ei  hadfer yn lle hynny.  Cytunwyd ar hyn, ac ym mis Awst 2003, cafodd y gwaith adfer ar Bont Dr Williams ei orffen yn dilyn gwariant o dros £40,000.  Casglodd y Cyfeillion arian drwy gynnal gweithgareddau a thrwy dderbyn cyfraniadau.  (Cyfrannodd Cymdeithas y Cyn-ddisgyblion £500 o'r hyn a etifeddodd yn ewyllys Miss Lickes). Yn y diwedd, codwyd £4,000 oedd yn brin o £1,000.




Bathodyn Ysgol Dr Williams

Honour before Honours Crest

'Honour before Honours'

Dyma arwyddair cyntaf Ysgol Dr Williams, a ddangoswyd yng nghylchgrawn yr ysgol yn 1897. Cafodd ei ddisodli'n ddiweddarach gan arwyddair a bathodyn newydd - Ardua Semper - pan agorwyd estyniad i'r ysgol yn 1934.


Ardua Semper Crest


Bathodyn Ysgol Dr Williams – 'Ardua Semper'

Cafodd yr ymchwil ar gyfer y bathodyn newydd ei wneud gan Goleg Herodron Cymru, a'r gwahanol elfennau'n cynrychioli'r amgylchfyd lleol.

Awgrymir Cader Idris yn rhan isaf bathodyn yr Ysgol, ac ar y brig mae’r ffagl sy’n symbol o'r goleuni a dysg oedd, yn ôl y chwedl, yn “fab Niwl y Bore, anwyd ar Ben y Gadair”

Gan fod Sant Illtyd yn seryddwr a bod tir yr ysgol yn gorwedd o fewn hen blwyf Sant Illtyd, mae’r sêr ar ran uchaf y bathodyn yn portreadu’r nod eithaf i bawb sy’n ymdrechu i ddringo i’r brig. Mae’r ffagl yn ein hannog ymlaen i gyrraedd y nod.

“Beunydd i'r brig yn ein calonnau"