Hanes

Ysgol Dr Williams' Timeline 1878-1975

Dr Daniel Williams

Bu farw Dr Daniel Williams yn 1716 gan adael eiddo gwerth tua £50,000 yng ngofal 23 ymddiriedolwr a'i defnyddiodd, yn ôl cyfarwyddyd manwl y rhoddwr, i sefydlu prentisiaethau, llyfrgell ddiwinyddol yn Llundain a 7 ysgol gynradd, un yn Chelmsford, Essex ac eraill mewn gwahanol leoedd yng Ngogledd Cymru. Dan Ddeddf Addysg 1870, fodd bynnag, cyfrifoldeb y wladwriaeth oedd addysg gynradd. Felly penderfynodd yr ymddiriedolwyr gau'r ysgolion yn Chelmsford, Llanbrynmair, Treffynnon, Dinbych, Pont Dolgadfan, Caergybi a Llanuwchllyn. Dim ond ysgol Wrecsam, man geni Dr Williams, gadwodd ei chymhorthdal o £55 y flwyddyn – dyma'r unig sefydliad Cymreig a grybwyllwyd yn benodol yn ei ewyllys. Penderfynodd yr Ymddiriedolwyr ddefnyddio'r arian i sefydlu ysgol anenwadol i ferched yng Ngogledd Cymru, ac ar y dechrau, cynigwyd y waddol i Gaernarfon ar yr amod y byddai £1,000 yn cael eu codi'n lleol ac y byddai dwy acer o dir adeiladu da ar gael.

Pan fethwyd cadw at yr amodau, gwnaeth Mr Samuel Holland gais cryf dros Ddolgellau. Yn bennaf oherwydd ei ymdrechion ef, cyfranwyd £1,400 yn lleol. Prynodd ef ei hun ddwy acer o dir gan Mr Vaughan, Nannau yn benodol fel safle i'r ysgol. 'Roedd hwn yn lleoliad delfrydol – chwarter milltir y tu allan i Ddolgellau ar fîn ffordd y Bermo.

images/DWSoriginalold3.jpg

Rhoddodd y Comisiwn Elusennau sêl ei fendith ar y cynllun i sefydlu'r ysgol yn Nolgellau ar Ionawr 19eg, 1875, a chyfarfu Corff Llywodraethol yr ysgol am y tro cyntaf ar Fedi 15fed, 1875 gyda Samuel Holland A.S yn gadeirydd. Roedd 10 aelod, 6 yn cynrychioli'r ymddiriedolwyr a 4 wedi eu dewis gan Fwrdd Ysgol Dolgellau. Merched oedd 4 o'r 10 – un yn fwy na'r gofyn. Gan eu bod eisoes wedi penderfynu cynnig lle i breswylwyr yn ogystal â merched dyddiol, gwnaed apêl bellach am gymorth ariannol a chodwyd dros £2,000, a llawer o'r tanysgrifiadau wedi eu codi'n lleol. Natur anenwadol yr ysgol arfaethedig, a oedd yn galluogi anghydffurfwyr i gael cynrychiolaeth gref ar y corff llywodraethol, oedd yn bennaf gyfrifol am y gefnogaeth leol hael.

Gallwch hefyd ymweld â Sianel YouTube DWS i weld fideos o hanes ysgol

Rhagor o wybodaeth am Dr Daniel Williams a’i ewyllys cliciwch ar y ddolen hon er mwyn ei darllen ar ffurf pdf

Rhagor o wybodaeth am ardal Dolgellaudrwy’r dolenni sy’n dilyn: