Gwybodaeth i athrawon

Croeso i Ysgol Dr Williams, Dolgellau, Gogledd Cymru yn 1878 -19

Y Cwricwlwm Cenedlaethol – KS3/4 Dinasyddiaeth, Hanes a Saesneg

Y Rhyfel Byd Cyntaf - Y Ffrynt Cartref :  Effaith y Rhyfel ar fywyd mewn ysgol i ferched yng Nghymru

images/Fourth_Form_Classroom_1912_web.jpg

  • Ymdrin â gwrthdaro
  • Gwybodaeth am y rhan gymerodd plant a merched yn y Rhyfel Mawr
  • Gwirfoddoli
  • Ffoaduriaid
  • Deall fod disgwyl i bob aelod o gymdeithas ymdrechu i gefnogi'r Rhyfel
  • Y newid yn swyddogaeth merched
  • Y sgiliau sydd eu hangen wrth ddadansoddi a dehongli tystiolaeth hanesyddol
  • Astudiaeth leol o wahanol agweddau o hanes sy'n arwyddocaol
  • Testunau storïol, Ysgrifennu adroddiadau, Ysgrifennu creadigol.

My Learning logo             Archwiliwch yr adnoddau a gyhoeddwyd ar MyLearning - World War One Homefront resource

             Diolch i www.mylearning.org am eu holl gefnogaeth.


Ysgol Dr Williams - Addysg Merched yng Nghymru: Ewch i www.dwsoga.org.uk

Mae yno straeon a lluniau am fywyd yr Ysgol o 1878-1975. Heblaw am straeon am Ysgol Dr Williams yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ceir hefyd hanesion, dyddiaduron a lluniau am Ysgol Dr Williams rhwng 1939 a 1945 er mwyn gweld beth ddigwyddodd yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Ar y wefan hefyd ceir tudalen am gyfraniad cyn-ddisgyblion i hanes -  Merched mewn Hanes.

Byddem yn falch iawn o gael unrhyw sylwadau am sut y gallai'r safle fod o ddefnydd i fyfyrwyr mewn meysydd eraill.  Mae gennym ddiddordeb mewn cyhoeddi (a chydnabod) syniadau am wersi fyddai'n ymestyn y ddarpariaeth.

Chwilio: Awgrymwn eich bod yn defnyddio geiriau allweddol wrth Chwilio.

Thêmau straeon a lluniau:   Byddwch yn ei chael hi'n haws i archwilio drwy'r themâu, yn hytrach na mynd yn syth i'r Oriel luniau.  Rhestrwn enghreifftiau o straeon a lluniau yn ôl thema.  Dyma'r themâu:

Cliciwch ar y dolenni i weld enghreifftiau sy'n cyd-fynd â'r gwahanol themâu
  • Torri'r rheolau:
Escape to the Polish Corridor 1960s
Eluned Morgan from Patagonia to DWS
  • Bwyta ac ymddygiad:
Letters Home in World War Two by Bronwen Pugh Lunchtime Philosophy
  • Dolgellau a thu hwnt :
Reunion at 10 Downing Street 1921 Thanksgiving Service at School Closure 1975
  • Addysgu a dysgu:
Prize Day Programme 1885 Miss Dorothy Davies - a school legend
1906-1961
  • Profiadau disgyblion:                   
Death of Winston Churchill, teenage diary 1965 Mock Election 1951
  • Cerddoriaeth a drama:
Sybil Thorndike plays Lady Macbeth in the school hall 1941 Gillian Green on a musical life at school in the 1960s
  • Chwaraeon a hamddena:   
 Hockey team 1910 Everyday life & privations of a boarding school in the 1960s
  • Tripiau a gwibdeithiau:
The Golden Lion Hotel, Dolgellau Memories of the Golden Lion in the 1950s
  • Defodau a thraddodiadau:
The fate of your school hat on leaving school Dancing in the Gym 1930s-1960s
  • Lifrai a'n dillad ein hunain - 'Any clothes'
Uniform inventory 1960s Third Form 1939
  • Diwedd Rhyfel 1914 :
Pressed flowers and a hand grenade donated to the school museum 1917 Entertainment at Caerynwch Military Hospital 1918

Rhannu syniadau am wersi

Os byddwch yn defnyddio'r wefan ar gyfer cefnogi dysgu mewn ysgolion, a'ch bod yn hapus i rannu rhai o'ch syniadau, rhowch wybod inni os gwelwch yn dda drwy ebostio'r safle dan Cysylltwch â ni . Diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri, Prifysgol Aberystwyth, Archifdy Dolgellau, ein tîm bach o wirfoddolwyr, a'r holl gyn-ddisgyblion a rannodd eu lluniau a'u straeon.

Jennie Forrester

(Cydlynydd y Prosiect)