Prifathrawesau

Prifathrawes
Llwyddiannau a Digwyddiadau Dolenni
1877-1886

Miss Emily Armstrong
Dyma'r brifathrawes gyntaf, a hi sefydlodd enw da'r Ysgol, gan ddenu disgyblion yno o Brydain benbaladr. Sicrhaodd fod y maes llafur ar gyfer y merched yn heriol ond hefyd yn gytbwys, gan gymharu'n ffafriol â'r pynciau domestig fyddai fel arfer yn cael eu darparu ar gyfer genethod y cyfnod hwn. Yr ysgol yn ystod yr 1880au

Disgyblion yn yr 1880au

Diwrnod gwobrwyo 1885
1886-1896

Miss Eliza Fewings

Daeth yn berson amlwg yn yr ymgyrch i hyrwyddo achos addysg uwch ar gyfer merched Cymru, gan bwyso am fwy o ysgoloriaethau ar gyfer merched, ac am fwy o hyfforddiant ar gyfer athrawon. Daeth yn aelod o lawer o gyrff addysg cyhoeddus yng Nghymru, gan annog rhieni i ganiatáu i'w merched gael addysg dda.

Pan adawodd Miss Fewings yr ysgol yn 1896, aeth i Awstralia i fod yn Brifathrawes ar ysgol ramadeg i ferched yn Brisbane. Yn 1899, sefydlodd Ysgol Uwchradd Brisbane i Ferched, ac mae'r ysgol honno'n parhau i arddel arwyddair gwreiddiol Ysgol Dr Williams, sef 'Honour before Honours'.

Arholiad ysgoloriaeth 

Diwrnod gwobrwyo 1886

Llwyddiant mewn arholiadau cyhoeddus  1887

Sampler - 1890au
1896-1897 - Miss Lucy Thompson Yn 1896, mabwysiadwyd gwyrdd a gwyn fel lliwiau swyddogol yr Ysgol.  Arwyddair swyddogol yr ysgol o hyn ymlaen oedd "Honour before Honours".

Cyhoeddwyd cylchgrawn yr ysgolam y tro cyntaf yn 1897 fel dolen rhwng y disgyblion presennol a'r cyn-ddisgyblion.  Ynddo, roedd erthygl gan Eluned Morgan Jones (gweler y ddolen).
Gwrthryfel yn yr ysgol

Mattie Roberts a Miss Rutter yn hwylio i Awstralia i weithio yn ysgol Miss Fewings' yno
1897-1906 Miss Diana Thomas Prynwyd y cae rhwng yr ysgol a Threm Hyfryd ar gyfer ei ddefnyddio fel maes chwarae hoci.  Ychwanegwyd adain newydd i'r ysgol yn 1906, a agorwyd yn swyddogol gan Mrs Lloyd George, a ymwelodd â'r ysgol gyda'i gŵr, David Lloyd George.

Aeth yr ysgol gyfan i weld 'Buffalo Bill's Wild West Show' ar y Marian yn 1904.
Hoci ar y cae newydd

Rhaglen diwrnod gwobrwyo 1902

Myfyrwyr yn chwarae croquet 1903
1906-1924 Miss Florence Anstey Cwblhawyd adain newydd yr ysgol yn 1910, gan gynnwys uned sylweddol ar gyfer cysgu, dwy ystafell ddosbarth, ystafelloedd astudio, ystafell staff ac ystafell gotiau, ac o ganlyniad gallai'r ysgol bellach letya 80 o ddisgyblion.Prynwyd Trem Hyfryd a'i agor fel llety ychwanegol a chanolfan grefft.
Yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf, bu'r merched yn gwnïo eitemau ar gyfer nifer o wahanol elusennau er mwyn cefnogi'r ymdrech a'r ffoaduriaid oedd wedi dod i'r ardal.  Cynhaliwyd ffeiriau ar ran y Groes Goch, a chyngherddau i ddiddanu milwyr clwyfedig yn yr Ysbyty Filitaraidd ger Dolgellau. Ymwelodd Tywysog Cymru â'r ysgol yn 1923 gan lofnodi'r llyfr ymwelwyr.
Cyfarfod Cymdeithas y Cyn-ddisgyblion yn 10 Downing Street

Tîm Hoci 1910

Yr Ysgol yn dathlu diwrnod y Cadoediad 1918

A Midsummer Night's Dream, 1923

Tywysog Cymru'n  ymweld â'r ysgol yn 1923
1924-1940 Miss Ellen Constance Nightingale Crynwr oedd Miss Nightingale a gredai ym mrawdoliaeth dynion a gwerth ac urddas yr unigolyn.  Daeth mwy o ddisgyblion dyddiol i'r ysgol a daeth y Gymraeg yn bwysicach o fewn y maes llafur.  
Mabwysiadwyd 'Ardua Semper', fel arwyddair newydd i'r ysgol yn 1934.
Mewn pryd ar gyfer y Jiwbilî Aur yn 1928, adeiladwyd campfa, mwy o unedau cysgu ac ystafell staff. Agorwyd pont yr ysgol yn 1938 er mwyn galluogi'r disgyblion i gerdded i Benycoed, y tŷ'r ysgol newydd. Codwyd neuadd newydd yn 1939, wedi'i chynllunio'n bennaf gan Miss Nightingale. Cynlluniwyd y dodrefn gan Edward Barnsley oedd yn aelod o fudiad crefftwyr 'Arts & Crafts'.
Cynyddodd y nifer o ddisgyblion i 295.
Llythyr 1931

Trafod 'Woolly stockings' mewn dyddiadur yn 1930

Dyddiadur disgybl 11 oed yn 1931

Dringo Cader Idris 1934

Disgyblion yn eistedd ar bont yr ysgol, 1939
images/orford.jpg 1940-1946 Miss E M C Orford Yn ystod blynyddoedd y Rhyfel, gwelwyd cynnydd yn nifer y disgyblion oedd yn lletya yn yr ysgol, gan fod y lleoliad yn cael ei gyfrif yn 'ddiogel', a phrynwyd Llys Mynach ar gyfer ei ddefnyddio fel ysgol iau.  Sefydlwyd cymdeithasau newydd fel y 'Guides', 'Rangers', a'r 'Training Corps'. Cafodd yr ysgol ei heffeithio gan y rheolau dogni bwyd a'r blacowt (gweler dolenni straeon). Cafwyd ymweliad gan gwmni theatr yr 'Old Vic' yn 1941, gyda'r Fonesig Sybil Thorndike a Lewis Casson yn chwarae'r prif rannau ym 'Macbeth', ac eto yn 1942 yn cyflwyno 'Medea'. Gellir gwrando ar Elinor Owen, un o'r disgyblion yn trafod y profiad.
Aeth aelodau o'r 'Guides' a'r 'Rangers' i'r Deml Heddwch yng Nghaerdydd yn 1945 i fynychu rali, a chael eu cyflwyno i'r Dywysoges Elizabeth.
Llythyrau adref yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Diogelwch ar y mynyddoedd

Picnic gyda Miss 'Do' Davies yn 1942

'Jottings' am DWS yn ystod amser rhyfel 1939-43
1946-1969 Miss D B Lickes Prynwyd Glyn Malden a Dolrhyd ar gyfer lletya disgyblion, a daeth Glyn Malden yn lleoliad i'r ysgol iau.  Cynhaliwyd  Eisteddfod Genedlaethol 1949 yn Nolgellau a defnyddiwyd adeiladau'r ysgol i'r pwrpas yma. 
Ymddeolodd 'Do' Davies, oedd yn gyn-ddisgybl (1906-12) ac yn athrawes (1919-61).
Agorwyd pwll nofio'r ysgol yn 1961 a chafwyd Labordy Ieithoedd flaengar yn fuan ar ôl hynny.
Caewyd y rheilffordd rhwng Rhiwabon ac Abermaw yn 1965, a fu'n ergyd fawr i'r ysgol.
Daeth Trem Hyfryd i fod yn ysgol i'r disgyblion hynaf yn 1968.
Pan sefydlwyd Ysgol y Gader fel ysgol gyfun newydd (a chydaddysgol bellach) ar gyfer yr ardal yn 1962, bu'n rhaid canolbwyntio ar ddenu mwy o ddisgyblion i letya yn yr ysgol.  Aeth y nifer o ddisgyblion dyddiol i lawr i 80 am fod bellach gystadleuaeth leol.
Amser te yng Nglyn Malden 1956

Parti Deuddeg 1949

Llyfrgell a neuadd yr Ysgol yn 1956-7

Gwers nofio 1966

Atgofion am westy'r  Golden Lion yn y 50au

Atyniadau'r Llwyfan  1967
1969-1974 Miss N L Lloyd-Jones Gwerthwyd Glyn Malden a daeth Llys Mynach yn gartref y disgyblion iau.
Cafodd llawer o'r rheolau caeth eu diddymu, wnaeth fywyd i'r lletywyr dipyn yn haws, a rhoi mwy o gyfrifoldeb a rhyddid i'r disgyblion hŷn.
Ymddeolodd nifer o gonglfeini'r ysgol: Miss Lee, (Lotty) Dirprwy Brifathrawes (staff 1941-73). Miss K M Thomas (Ma T.) Pennaeth Cerdd (staff 1944-71)
Merched yn eu dewis o ddillad

Taith gerdded noddedig 1969

Sgïo yn Leysin 1969

Rhai o'r 'Girl guides' gyda Miss Lloyd-Jones 1970

Roedd ysgol yn antur 1972-73
1974-1975 Miss V E M Shepherd Yn gynnar yn 1975, cyhoeddwyd y bwriad i gau'r ysgol.  Rhoddwyd rhesymau ariannol am hyn, a achoswyd gan benderfyniad Pwyllgor Houghton y dylid rhoi codiad cyflog i athrawon.  Ymdrechodd rhieni i gadw'r ysgol ar agor, ond byddai'r codiad mewn ffioedd mynychu wedi bod yn ormod i ddenu rhagor o ddisgyblion yn y dyfodol.  Bu'n rhaid i'r 229 o ddisgyblion chwilio am ysgolion eraill, a bu'n rhaid gwerthu'r adeiladau, a dosrannu eitemau eraill.  Sefydlwyd Cronfa Addysgol Dr Williams gyda'r arian a godwyd er mwyn cynnig grantiau i bwrpas addysgol i gyn-ddisgyblion a phobl leol.

Cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch yn Eglwys y Santes Fair, a gellir gwrando ar rannau ohono ar y tudalennau Ffeiliau Sain
'Yr Adain Salwch'  1973-75

Dyddiau olaf disgyblion yr 'Upper IIIrd' yn 1975

Y Swper Olaf yn DWS

'Cyngerdd yr haf' 1974