Geirfa

Roedd peth o'n mynegiant yn Ysgol Dr Williams yn perthyn i'w gyfnod ac i'r lle arbennig hwnnw.  Dim ond disgyblion oedd wedi bod yn mynychu'r ysgol fyddai'n gwybod beth oedd ystyr rhai o'r geiriau neu ymadroddion.  Roedd yr eirfa yn perthyn i'r gymdeithas o fewn yr ysgol.  Yma, fe gewch wybod beth oedd ein ffordd o siarad a sut roedden ni'n mynegi ein hunain yn ein dyddiaduron neu lythyrau.  Rhowch wybod inni, os gwelwch yn dda, os nad ydy peth o'r eirfa rydych chi'n gofio'i defnyddio wedi'i chynnwys yma. Cysylltwch â ni.

Apple Pie Bed
Chwarae tric lle mae'r gynfas isaf yn cael ei phlygu'n ôl hanner ffordd, fel bod y gwely'n edrych fel arfer, nes bod y person yn ceisio gorwedd i lawr ynddo.
Any-clothes
Dewis gwisgo'ch dillad eich hunan ar derfyn diwrnod ysgol
Baity
Bod mewn tymer ddrwg
Bills
Toiledau - h.y. "mynd i'r lle chwech"
Bish
Gwneud llanast o rywbeth e.e. "Gobeithio na wna' i lanast(bish) o hyn" (dyddiadur 1965)
Boiled Baby
Pwdin rholyn jam wedi'i weini gyda chwstard(atgofion cyn-ddisgybl oedd yn DWS o 1949-54)
Brecca
Brecwast
Bun-running
O ddyddiadur 'sgrifennwyd yn 1964 - ydy unrhyw un yn gwybod ei ystyr?
Candies
Ffrogiau ysgol ar gyfer yr haf, gyda'u stribedi o liwiau meddal
Channel Crossing
Saws caws wedi'i gymysgu gyda moron mân, tomatos a phys wedi'i weini mewn dysgl fetel
Chuffed
Bod yn falch ohonoch eich hun - e.e."I'm dead chuffed, I'm in the team" (o ddyddiadur 1965)
Colours
Tei arbennig a gyflwynwyd i ddisgyblion gafodd lwyddiant mewn chwaraeon, dawnsio, cerddoriaeth neu ddrama
Crush
Ystafell o baneli derw oedd yn cynnwys cabinet i arddangos trugareddau DWS, gerllaw'r neuadd ac ystafell gotiau (y cyfeirid ati hefyd fel 'Crush')
Daybugs
Disgyblion dydd oedd yn dychwelyd adref bob pnawn
"Do begin"
Byddech yn dweud hyn wrth eich partner wrth y bwrdd bwyd cyn dechrau bwyta'ch pryd eich hunan
Doctor Ducks
Dyma sut y byddai pobl Dolgellau yn cyfeirio atom
Dormy
Ystafell gysgu
Dormy pre
Swyddog yr ystafell gysgu
First
Bara gwyn(weithiau'n llwyd) wedi'i dafellu'n denau gyda margarine arno, a'i weini ar hambwrdd pren - "Pass the first"
First bell
9.15pm, paratoi i fynd i'r gwely; byddai'r ail gloch a "lights out" yn dilyn, a dim siarad (i fod) am 9.30pm
Fish
'Fish' oedd y dywediad am ferch iau oedd wedi gwirioni ar ferch hŷn o fewn yr ysgol. Dim ond os oedd y ferch hŷn honno yn eich hoffi'n ôl y byddech chi'n deilwng o gael eich galw'n 'Fish'.
Flies' graveyard
Pwdin gyda gwaelod crwst gyda chyrans arno, a chwstard
Funk
Bod ofn cael eich dal yn torri'r rheolau; "I guess I'm just a funk"(dyddiadur o 1965)
Genol
Gwybodaeth cyffredinol - tasg anodd iawn fyddai'n cael ei gosod cyn Gwyliau'r Nadolig gyda'r prawf ar ddiwrnod cynta'r tymor
Gone-on
Bod wedi gwirioni ar ddisgybl neu athrawes - "Is she your gone-on"?
Gran
Mislif - tynnu coes merch newydd (yn 1963) drwy holi "Has granny come to stay?" fyddai'n methu deall y cyfeiriad
Grannie's luggage
Cadach mislif (dywediad a gofiodd disgybl DWS oedd yno rhwng 1936 a 1944)
Indoors
Esgidiau ar gyfer eu gwisgo o fewn yr adeilad, gyda sodlau isel llydan, a strapiau (i fod)
Ink room
Ystafell ym mhen pella'r rhodfa 'Polish' lle byddai'r potiau inc yn cael eu hail-lenwi gan y monitor inc
Jack Robinson
Deuddeg diwrnod cyn unrhyw wyliau, byddai "We'll be home before you can say Jack Robinson" yn cael ei ysgrifennu ar y bwrdd du, ac un lythyren yn cael ei chroesi allan bob dydd
Liberty bodice
Haen ychwanegol o ddillad isaf gwlanog, a wisgid dros fest i gadw'n gynnes, a'i gau weithiau gyda rhubanau a thro arall gyda botymau rwber
Lisle stockings
Hosanau melynlwyd trwchus a gedwid i fyny gan felt syspendar - y math fyddai Nora Barry yn eu gwisgo yn "Last of the Summer Wine". Roedden nhw'n dal ar restr gofynion lifrau DWS ynghanol y chwedegau, ond dim ond merched newydd diniwed fyddai'n eu gwisgo
Long prayers
Gwasanaeth nos Sul a gynhelid yn neuadd yr ysgol, yn cynnwys dweud storïau, ac yn gorffen gyda'r emyn "God be in my head"
Mucca
Cerddoriaeth
Mudballs
Cacennau blas siocled, gludiog a melys iawn, fyddai'n cael eu bwyta ar ben-blwydd yr ysgol
Murder on the Alps
Semolina a jam (atgof gan gyn-ddisgybl yn DWS rhwng 1949 a 1954)
Outdoors
Esgidiau a wisgwyd pan nad o fewn adeiladau'r ysgol, rhai brown cryfion gyda chareiau (i fod)
Polish corridor
"Polish": (wedi'i ynganu fel person o wlad Pwyl) sef rhodfa oedd yn cysylltu hen ran yr ysgol gyda'r neuadd a'r ystafelloedd dosbarth newydd. Cafodd ei adeiladu tua 1939/40, ac roedd hefyd yn arwain i'r 'Ink Room', yr ystafell sychu dillad, ystafell ddosbarth 'prefab', a buarth yng nghefn yr ysgol. Cafodd y 'Polish corridor' gwreiddiol ei enwi i goffáu'r llain o dir a roddwyd i wlad Pwyl yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn rhoi mynediad i Fôr Llychlyn i wladwriaeth oedd wedi'i hamgylchynu gan dir. Adeiladwyd y rhodfa yn yr ysgol yn ystod y cyfnod pan oedd y Natsïaid yn ceisio goresgyn gwlad Pwyl, a chafodd ei enwi i ddangos cydymdeimlad â'r Pwyliaid.
Praccy
Ymarfer e.e.'Mucca Praccy' (ymarfer cerdd) neu 'Play Praccy'(ymarfer drama)
Prep
Gwaith cartref - gair cryno am "preparation", sef awr a hanner bob diwrnod gwaith a phob bore Sadwrn. Byddai'r rhai oedd yn lletya dan arolygaeth un o'r swyddogion
Presses
Loceri yn ymyl y gwelyau (atgof gan gyn-ddisgybl oedd yn DWS 1949-54)
Rabbits
Y gair cyntaf ddylai'r disgybl ei ddweud ar ddechrau pob mis, er mwyn cael lwc; "Hares and Rabbits" er mwyn cael rhagor o lwc.
Rhino
Cig eidion wedi'i rostio
Sacks
Ffrogiau gwyrdd tywyll ar gyfer dyddiau Sul, gai eu gwisgo drwy'r tymor heb eu golchi
San
Lle byddech chi'n mynd pan yn teimlo'n sâl
Skeleton stew
Saig yn cynnwys cig oen
Smiles
Y darn o'r goes sydd i'w weld rhwng top yr hosanau du hir a'r nicer (atgof cyn-ddisgybl fu yn DWS rhwng 1936 ac 1944)
Spares
Y rhes y byddech chi ynddi amser bwyd os na fyddai gennych bartner ar gyfer y pryd
Squashed flies and cement
Tebyg i deisen Eccles
Staff hats
Hetiau hynod a wisgai'r staff i gyd dros ginio ar ben-blwydd yr ysgol, wedi'u gwneud gan y disgyblion
Sub
'Sub-monitress' - is-fonitor, sef y bathodyn swyddog cyntaf ar eich tei. Byddai'r breintiau yn cynnwys caniatáu i'r rhai oedd yn lletya fynd i Ddolgellau ar bnawn Sadwrn
Tens
Ystafell gysgu ar gyfer yr 'Upper Thirds' (un ar ddeg oed)
Tin
Ystafell ar gyfer disgyblion y 6ed dosbarth fyddai'n werth ei chael, gan nad oedd ganddi biano'n cymryd y lle i gyd
Weedy
Person teimladwy, ond nid mewn ffordd oedd yn ennyn edmygedd
Wet
Plentynnaidd e.e. "I watched telly tonight and saw a very wet Dr Who" (o ddyddiadur 1965)
Wigwash
Golchi'ch gwallt