Parti Deuddeg 1949

Yr atgof mwya pleserus sydd gyda fi o’m amser yn DWS yw cymeryd rhan yn y Parti Deuddeg a fu’n cystadlu, ac ennill, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau yn 1949. Cawsom ein dysgu gan Miss Menna Carrington i ganu ‘Y Mae Afon’, gan Daniel Protheroe a hefyd yr wythfed salm. Bu llawer o ymarfer, rwy’n cofio John Hughes y trefnydd cerdd ar y pryd yn dod i wrando arno ni. Ef hefyd oedd fy athro Ysgol Sul yng nghapel y Bedyddwyr yn y dre. Cael aros yn yr ysgol wedyn ar ddiwedd y tymor a rhagor o ymarferion, cyn y diwrnod mawr. Dyna gyffro pan ddaeth y canlyniad. Newydd sylwi ydwyf mai dim ond un ar ddeg o ferched sydd yn y llun, pwy sydd yn eisieu tybed? Roedd cymeryd rhan yn y cor ac yn nramau yn brofiad newydd i fi, gan fy mod wedi dod o ysgol ddyddiol yn Aberteifi a gan fod ddim modd i drafaeli i’n pentref ni ar ol bws yr ysgol, rodd yn amhosib cymeryd rhan yn unrhyw beth wedi pedwar. Dod i’r chweched dosbarth nes i a dwy ferch arall. Roedd Miss Lickes wedi bodloni i’n cymeryd ni, er fod Miss Orford wedi gwrthod. Rwy’n cofio canu carolau ar ddiwedd y tymor lan ym Mhencoed, profiad hyfryd.

Leave a comment

Comments (1)

  1. Posted by: Susan Ogden
    Posted on: 16.02.2015 at 18:30

    There is a recording of this on the audio page, and information about this event at: http://www.dwsoga.org.uk/en/the-history-of-dr-williams-school/school-musical-tradition and a picture in the gallery: http://www.dwsoga.org.uk/en/article-stories/parti-deuddeg-05084



Please login to comment.

  • Uploaded by:Anonymous
  • Approximate date of item:
    From: -- August 1949
    To: -- - ----
  • Location:Dolgellau
  • County:Merioneth
  • Creator:Bidi Davies
  • Related Story:
  • Themes:Cerdd a drama  

Share This Story

Comments (1)