Parti Deuddeg DWS – ennillwyr yn Eisteddfod Genedl

Hyfforddwyd y parti deuddeg gan y diweddar Menna Carrington Jones – ‘roedd hi’n athrawes cerdd yn DWS 1948-195? Un o Goedpoeth ger Wrecsam oedd hi ac y mae ei chwaer – Mair Carrington Roberts yn byw yn Llanfairpwll – mae hi’n adnabyddus iawn ym myd cerdd Cymru, ac yn feirniad yn yr Eisteddfodau Genedlaethol. ‘Roedd aelodau’r Parti 12 yn y 5ed a’r 6ed dosbarth yn 1949. Bu Olwen Williams farw rai blynyddoedd yn ôl. Cliciwch yma i wrando Y mae afon, Daniel Protheroe gyda chaniâtad 'Cwmni Gwyn' John Hughes oedd hyfforddwr y Côr Plant – cofiaf i ni gael lot o hwyl, a John Hughes yn gaddo prynu hufen iâ i ni os oeddan ni yn byhafio, ond na welsom ni byth yr hufen iâ! Mrs K M Thomas – athrawes cerdd yn DWS oedd yn cyfeilio ar y piano, ac r’oedd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyfeilio i ni hefyd a Clarence Raybold oedd eu harweinydd.

Leave a comment

Comments (0)



Please login to comment.

  • Uploaded by:Sue Ogden
  • Approximate date of item:
  • Location:Dolgellau
  • County:Merioneth
  • Creator:Cwmni Gwyn
  • Owner:unknown
  • Themes:Music and drama  

Share This Story