Mynd i drafferth am fod yn gwrtais. .

Prynhawn dydd Gwener oedd hi, a gwers dwbwl chwaraeon, hoci o bob dim, i orffen yr wythnos. D’oeddwn i ddim yn hoffi hoci, ac felly penderfynodd pedair ohonom fase hi’n llawer mwy o hwyl i fynd i lawr i’r Parlwr Bach, caffi bach twt yn nhre Dolgellau, am baned a sgwrs, ac wrth gwrs i weld os oedd y llanc ifanc golygus oedd yn gweithio yn Bradleys yn digwydd bod yno. Gan y byddai pedair mewn gwisg ysgol yn crwydro’r dre braidd yn rhy amlwg, aeth dwy ohonom i gael golwg sydyn yn y caffi, tra arhosais i ag un arall yn amyneddgar i weld os oedd unrhyw hanes o’r dyn ifanc. Y peth nesa, fe ddaeth yna 1100 gwyrdd tywyll (o leia dyna sut rydw i’n ei gofio) ar ras wyllt rownd y gornel hefo Miss Morley wrth y llyw. Dyma ni’n troi ein cefnau arni, gan obeithio na fase hi’n sylwi arnon ni. Rhy hwyr, ‘roedd wedi ein gweld ac yn ein gorchymyn i mewn i’r car; pwy feddyliwch oedd yn eistedd yn y cefn? Ie, y ddwy arall. Wrth gyrraedd yn ôl i’r ysgol, aeth fy nerfau yn drech na mi, ac wrth ddod allan o’r car mi ddywedais, heb feddwl, “Diolch am y lifft”. Syth a fi i swyddfa Miss Lloyd Jones, y brifathrawes, nid am fethu’r chwaraeon, ond am fod yn ddigywilydd. Ni allwn ei argyhoeddi mae nid bod yn ddigywilydd oeddwn i, ond yn hytrach trio bod yn gwrtais. Dydw i ddim yn cofio beth oedd y gosb, ond dwi yn cofio’r adroddiad ar ddiwedd y tymor yn dweud ‘Gall Eirian fod yn haerllug ar brydiau’. D’oes dim rhaid dweud, aeth hyn ddim i lawr yn dda iawn adre. Oes un o’r tair arall yn cofio hyn?!

Leave a comment

Comments (0)



Please login to comment.

  • Uploaded by:Eirian James
  • Approximate date of item:
    From: -- - ----
    To: -- - ----
  • Location:Unknown
  • County:Sir Feirionnydd
  • Creator:
  • Related Story:
  • Themes:Breaking the rules  

Share This Story

Comments (0)